Pethau Bychain

Ffenomenon fawr Gymraeg y we heddiw yw pethau bychain. Os ewch chi i bron unrhywle ar y we mae’n debygol iawn y dowch chi o hyd i rywun yn gwneud rhywbeth  yn y Gymraeg diolch i wefan pethau bychain.

Fy rhan i yn y fenter felly yw ysgrifennu blog ar ôl pythefnos o seibiant. Ro’n i’n meddwl y byddai hi’n dal yn gymharol dawel ar ôl dod nôl o wyliau ond gyda Tony Blair yn cyhoeddi ei hunangofiant a chyhoeddi adroddiad y Comisiwn Etholiadol ar eiriad cwestiwn y refferendwm ar bwerau’r Cynulliad mae digon i goglais ffansi yr anorac gwleidyddol ar ddechrau Medi fel hyn.

Mae digon o drafod ar Blair dros y we ac mae digon o drafod ar yr adroddiad hefyd felly nodyn byr yw hwn i gefnogi ymgyrch pethau bychain ac i ddweud y bydda i nôl yn blogio’n rheolaidd cyn bo hir, mae’n bosib o gynhadledd Plaid Cymru wythnos nesa ond yn sicr unwaith y bydd y Cynulliad yn ail-ymgynnull ddiwedd Medi.

Montenegro v Cymru-opsiynau Toshack

Gyda Chymru’n chwarae eu gêm agoriadol yng gemau rhagbrofol Pencampwriaethau Ewrop 2012 ym Montenegro nos Wener, Owain Schiavone sy’n ystyried yr opsiynau sydd gan Toshack wrth ddewis ei dîm i’r gêm gyntaf hollbwysig.

Mae gêm gyntaf unrhyw ymgyrch ragbrofol i Gymru’n creu teimladau cymysg i gefnogwr. Fel arfer, mae rhywun yn llawn cyffro a gobaith bod cyfle i weld Cymru mewn ffeinals am y tro cyntaf ers 1958, ond mae ‘na wastad rhyw deimlad amheus yng nghefn meddwl rhywun o fod wedi cael eu siomi mor aml yn y gorffennol.

Wrth i’r enwau ddod allan o’r het ar gyfer grŵp G, yr ymateb cyntaf oedd ‘gallai fod yn waeth’ tra bod y cyfle i chwarae Lloegr yn cyffroi hefyd wrth gwrs. Erbyn hyn, mae rhywun yn sylweddoli nad oes yna’r un gêm hawdd yn y grŵp ac wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm yn erbyn y gwrthwynebwyr ‘gwannaf’ ar bapur nos Wener mae’r stumog yn troi gan wybod y byddai colled yn golygu ein bod ni mewn trwbl o’r cychwyn cyntaf.

Nifer o Gymry yn Uwch Gynghrair Lloegr

Mae cymryd golwg ar garfannau’r Uwch Gynghrair (a’r Alban yn achos Joe Ledley) yn codi’r galon gan fod mwy o chwaraewyr Cymru yn chwarae i dimau ar y lefel uchaf nag ydw i’n cofio. Dyma syniad i chi o’r garfan Gymreig y gellid ei dewis o chwaraewyr sydd ar lyfrau timau Uwch Gynghrair:

  1. Wayne Hennesey ( Wolves)
  2. Sam Ricketts (Bolton)
  3. Gareth Bale (Spurs)
  4. James Collins (Aston Villa)
  5. Danny Gabbidon (West Ham)
  6. David Vaughan (Blackpool)
  7. Simon Davies (Fulham)
  8. Joe Ledley (Celtic)
  9. Craig Bellamy (Man City – ar fenthyg gyda Chaerdydd)
  10. Aaron Ramsey (Arsenal)
  11. Ryan Giggs (Man Utd)

Eilyddion:

  1. Danny Collins (Stoke City)
  2. Boaz Myhill (West Brom)
  3. Neal Eardley (Blackpool)
  4. Rob Edwards (Blackpool)
  5. Jack Collison (West Ham)
  6. David Edwards (Wolves)
  7. Sam Vokes (Wolves – ar fenthyg gyda Bristol City)
  8. Jason Brown (Blackburn Rovers)

Dyna chi 19 o Gymry sy’n chwarae pêl-droed i dimau ar y lefel uchaf – gwych i’w weld, yn enwedig mewn cynghrair sy’n denu cymaint o dramorwyr ar hyn o bryd.

Yn anffodus wrth gwrs, mae Giggs a Simon Davies wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol erbyn hyn ac er bod Giggs wedi awgrymu y byddai’n fodlon rhoi help llaw i’w wlad mewn argyfwng, mae’n ymddangos fod Toshack yn gwrthod codi’r ffôn a gofyn iddo ddod nôl. Mae Davies hefyd yn golled a byddai ei brofiad yn werthfawr yng nghanol y cae. Mae Toshack hefyd wedi ffraeo â Danny Collins wrth gwrs, er ei fod yntau wedi dweud yn gyhoeddus ei fod am gladdu’r gorffennol ac adennill ei le yn y tîm.

Tynnwch hefyd y chwaraewyr sy’n anafiedig – Ramsey, Collison a Gabbidon ac mae’r garfan yn dechrau edrych yn ysgafn. I daflu mwy o ddŵr oer ar y mater, beth am edrych i weld pwy sydd ddim yn chwarae’n rheolaidd i’w tîm cyntaf ar hyn o bryd – dyna sgrapio Hennessey, Myhill, Brown, Vokes, Eardley, Ricketts,  David Edwards a Rob Edwards felly. Mae hynny’n gadael Bale, James Collis, David Vaughan, Ledley a Bellamy – un o’r rheiny, Collins, wedi chwarae ei gêm gyntaf ddydd Sul a dau arall yn chwarae y tu allan i Uwch Gynghrair Lloegr mewn gwirionedd. Mae’r gobaith yn dechrau pylu.

Gobaith

Ond rhaid peidio bod yn rhy negyddol gan bod perfformiadau diweddar yn erbyn yr Alban a Lwcsembwrg yn awgrymu bod digon o dalent ifanc gan Toshack i greu argraff ar y grŵp. Mae ‘na chwaraewyr Cymreig y tu allan i’r Uwch Gynghrair sy’n chwarae’n dda ar hyn o bryd a dwi’n teimlo y bod digon o dalent yn y garfan i gael canlyniadau yn y gemau agoriadol gan weddïo y bydd bois fel Collison a Ramsey’n holliach erbyn  yr hydref ac y bydd rhai o’r lleill yn chwarae’n rheolaidd erbyn hynny.

Pa dîm ddylai Tosh ei ddewis felly? Fe brofodd perfformiad ail hanner Lwcsembwrg mai system 4-5-1 sy’n siwtio Cymru gan gael y gorau allan o chwaraewyr fel Bellamy.

O ran yr amddiffyn, rŵan bod James Collins yn ffit, bydd yn cymryd ei le wrth ochr Ashley Williams yn y canol. Roedd yn edrych yn addawol i Gabbidon ar un pryd wedi iddo chwarae yng ngemau agoriadol West Ham eleni, ond mae anaf arall yn awgrymu fod diwedd ei yrfa’n agosáu. Mae Chris Gunter o Nottingham Forrest, sy’n ddigon da i’r Uwch Gynghrair, yn ddewis amlwg fel cefnwr de.

Safle’r cefnwr chwith fydd yn peri’r penbleth mwyaf i Toshack yn yr amddiffyn, ac yn fwy penodol, y cwestiwn o pa safle i chwarae Gareth Bale, sef un o chwaraewyr gorau’r Uwch Gynghrair ar hyn o bryd. Mae Bale wedi bod ar dân i Spurs ar yr asgell chwith, ac fe awgrymodd Toshack yr wythnos diwethaf mai yno y byddai’n chwarae i Gymru a buaswn yn cytuno â’r penderfyniad hwnnw. Os felly, mae’n debygol o fod yn ddewis wedyn rhwng Ricketts a Lewis Nyatanga sy’n fwy cyfarwydd fel amddiffynnwr canol.

Canol cae’n allweddol

Ymlaen i ganol y cae, ac yma mae gobaith gwirioneddol Cymru. Byddai gweld Bale a Bellamy’n dechrau ar yr esgyll yn dychryn unrhyw dîm – mae angen sicrhau digon o bêl i’r ddau greu’r difrod felly. Mae’r tri yn y canol yn allweddol felly, ac ar sail ei berfformiad yn erbyn Lwcsembwrg, David Vaughan yn arbennig. Pan ddaeth Vaughan i’r cae wedi’r hanner yn y gêm gyfeillgar fis diwethaf, dechreuodd Bellamy a Chymru danio. Does ‘na ddim byd ffansi am y Cymro Cymraeg o’r gogledd – mae o’n chwaraewr taclus sy’n chwarae pêl-droed syml ond effeithiol. Mae wastad yn chwilio am y bêl ac mae’n basiwr da – dyna pam mae’n cadw ei le yn nhîm Blackpool, a dyna pam y dylai Toshack ei ddefnyddio yn absenoldeb Aaron Ramsey.

Mae Joe Ledley’n debygol o hawlio un o’r llefydd eraill yng nghanol y cae tra bod gan Toshack bedwar chwaraewr a allai lenwi’r safle olaf yn y canol – petai wedi bod yn chwarae i Wolves eleni, David Edwards fyddai’r dewis amlwg ac mae’n debygol mai ef fydd dewis Toshack, ond mae gan gefnogwyr Leicester feddwl mawr o Andy King ac mae’n sicr yn werth ei ystyried.

Mae hynny’n gadael dau safle – un ym mhob pen o’r cae. Mae’n biti nad ydy Wayne Hennessey yn nhîm Wolves ar hyn o bryd, ond fo ydy golwr gorau Cymru a fo ddylai ddechrau nos Wener.

Dyn mawr i arwain y gad

Mae safle’r ymosodwr yn un pwysig iawn hefyd. Gyda system 4-5-1 bydd rhaid i bwy bynnag sydd yno weithio’n galed i ddal y bêl i fyny, yn ogystal a bod yn fygythiad o groesiadau Bellamy a Bale. Dwi’n amau fod Earnshaw a Church yn rhy fach o wneud y job, felly mae’n ddewis rhwng Ched Evans o Sheffield United a Steve Morison o Millwall yn fy marn i. Mae Evans yn chwarae yn y blaen ar ben ei hun i’w glwb, a fo ydy’r chwaraewr gorau yn dechnegol. Wedi dweud hynny, fe gafodd Morison gêm gyntaf dda yn erbyn Lwcsembwrg ac mae’n amhosib anwybyddu’r ffaith ei fod wedi sgorio 4 gôl mewn pum gêm hyd yn hyn eleni, o’i gymharu â un gôl Evans hyd yma. Yn 6’2” a 13 stôn a hanner, mae Morison hefyd yn glamp o foi sy’n gallu taflu ei bwysau ar y cae, tra’i fod hefyd yn adnabyddus fel gweithiwr caled – dwy agwedd y bydd eu hangen allan ym Montenegro.

Dyma’r tîm y buaswn i’n ei ddewis felly:

  1. Wayne Hennesey
  2. Chris Gunter
  3. Sam Ricketts
  4. James Collins
  5. Ashley Williams
  6. David Vaughan
  7. Andy King
  8. Joe Ledley
  9. Craig Bellamy
  10. Steve Morison
  11. Gareth Bale

Mae’n siŵr bod gan Toshack ei syniadau ei hun, ond mae’r asgwrn cefn cadarn i’r tîm yma a digon o fygythiad ar yr esgyll. Er hynny, byddai’n braf gweld enwau Giggs a Davies yno i ychwanegu profiad.

Gwyddoniaeth – conglfaen hanes Cymru

Ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, mae John Tucker, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe, yn dadlau nad yden ni’n gwybod digon am hanes gwyddoniaeth yng Nghymru …

Mae syniadau am hunaniaeth genedlaethol, treftadaeth a hanes yn ddeallusol anodd, yn ddylanwadol iawn ac yn ymarferol iawn. Pwy ydyn ni’n ei ddweud ydyn ni? Beth wyddon ni amdanon ni ein hunain? Beth allwn ni fod?

Yng Nghymru ers yr 1960au, mae haneswyr a churaduron amgueddfeydd wedi llwytho sylw ar ychydig themâu llywodraethol, gan gynnwys: hanes y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar; hanes gwerin yn y gorllewin a’r gogledd; hanes dinesig a diwydiannol yn y de; ffurfio’r dosbarth gwaith.

Ond mae yna themâu sydd wedi eu hesgeuluso: diwydiannau bydeang o Gymru heblaw glo a dur -  copr, ynni, cemegau, cerbydau, cyfrifiadureg; busnes ac arian; hanes milwrol; y dosbarth canol; y celfyddydau, hamdden, siopa a chwaraeon. A’r thema sydd mae’n debyg wedi ei hesgeuluso fwya’ o’r cyfan: Cymru a gwyddoniaeth.

Datganodd y diweddar Athro Phil Williams fod Cymru’n genedl o wyddonwyr. Mewn araith ardderchog mewn dadl yn y Cynulliad am Wyddoniaeth yng Nghymru, ym mis Mai 2001, edrychodd ar bwnc cyfoes gwyddoniaeth, gan ddechrau gyda llwyddiannau gwyddonol Cymru. Enwodd 15 o bobol a rhoi sylw bychan ar yr hyn a wnaethon nhw. Ef oedd y person cynta’ i mi ei glywed yn dathlu treftadaeth wyddonol Cymru fel petai’n fawr ac yn cyfri’.

Gwyddonydd ydw i. Fel y rhan fwya’ o wyddonwyr, mae gen i ddiddordeb yn hanes gwyddoniaeth. Mae hanes yn rhan o ddiwylliant gwyddonwyr wrth eu gwaith. Mae syniadau cynharach, cerrig milltir technegol a hyd yn oed fywgraffiadau yn rhan o esboniadau gwyddonol ac maen nhw’n rhan hanfodol o addysg gwyddonwyr.

Er enghraifft, mae hanes TGAU’n tynnu sylw at ddatblygiad syniadau ac anawsterau’r gorffennol, er enghraifft ateb Einstein yn 1905 i’r broblem a gododd yn 1827 wrth egluro’r hyn a welodd y Parch Thomas Brown wrth wylio paill yn symud ar wyneb dŵr. Dyma a sefydlodd ddamcaniaeth atomau yn yr oes fodern. Fodd bynnag, i wyddonwyr, mae hanes yn tueddu i fod yn rhyngwladol, yn arwrwol ac yn Whigaidd.

Yn wahanol i’r rhan fwya’ o wyddonwyr, bu gen i ddiddordeb ers tro yn hanes gwyddoniaeth a Chymru. Mae wedi bod yn ddiddordeb anodd ei gynnal, yn benna’ oherwydd bod pobol wybodus a llenyddiaeth yn brin. Fe gymerodd flynyddoedd i gasglu enwau a deall a gwerthfawrogi eu llwyddiannau. Trwy lwc, mae digon i’w wybod ac mae casglu yn cydio ynoch chi.

Pam fod eisiau ystyried hanes gwyddoniaeth yng Nghymru?

Mae budd i’w gael o feddwl am wyddoniaeth Gymreig a’i lle yn ein hanes a’n treftadaeth ddiwylliannol. Mae natur hanes gwyddonol cenedlaethol ynddo’i hun yn herio syniadau arferol haneswyr am hanes gwyddoniaeth. Mae’n ychwanegu talpiau sylweddol o gyd-destun deallusol a hanesyddol trwy fapio rhwydweithiau cymdeithasol gwyddonwyr, trwy adfer pwrpas ymchwiliadau a thrwy wreiddio syniadau, llwyddiannau a methiannau’r gymuned wyddonol mewn hanes lleol.

Yn rhyfeddol, mae hanes cenedlaethol yn ehangu graddfa a chymhlethdod ein dealltwriaeth o wyddoniaeth ei hun. Yn benodol, mae hanes manwl, gwreiddiedig, o’r fath yn nes at brofiad gwyddonwyr heddiw. Mae pedwar rheswm syml pam fod y pwnc yn ganolog ac yn berthnasol o ran materion o bwys yng Nghymru heddiw:

1. I wyddonwyr ac athrawon gwyddoniaeth, mae dealltwriaeth ddyfnach o natur gwyddoniaeth yn arwain at well gwyddoniaeth ymarferol, at well addysg wyddonol ac at ennill mwy o ddiddordeb ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

2. Mae gwyddoniaeth yn ysbrydoli ac yn un o’r pethau a sbardunodd Foderniaeth Ewropeaidd o’r 17fed ganrif. Rhaid ail osod gwyddoniaeth yn un o rannau hanfodol treftadaeth y Gymru fodern.

3. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol i wneud y Gymru fodern yn gystadleuol a chynaliadwy, yn arbennig i gwmnïau a chyrff bychan a chlyfar. Yn eu hanfod, mae dyfeisio, arloesi a newid yn hanesyddol.

4. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol yn y broses o greu polisi a gwneud penderfyniadau yn y Gymru gyfoes, sy’n llawn dogma a safbwyntiau set, yn arbennig ynglŷn â thechnoleg uwch a phynciau mawr ynni.

Mae dwsinau o feysydd polisi a channoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu buddsoddi mewn prosiectau lle mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn amlwg. Mae’r cofnod hanesyddol yn drysorfa anferth o wybodaeth a gwersi i’w dysgu, o straeon sy’n annog pwyll a rhybuddio, a’r rheiny o werth mawr i Gymru heddiw.

Mae’n galonogol deall bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi bod yn meddwl am Dreftadaeth Wyddonol Cymru, hefyd. Mae ganddi enw ardderchog o ran ymchwil, casglu ac arddangos ym maes natur a daeareg ac mae’n bwriadu gwella hynny eto.

Fodd bynnag, does fawr iawn i’w weld am weddill y byd gwyddonol. Wrth gwrs, yn ei stordai, mae yna bob math o wrthrychau sy’n perthyn i amgueddfa wyddoniaeth. Un enghraifft y gwn i amdani yw’r Stantec-Zebra. Dyma hen gyfrifiadur gwych a wnaed gan STC yn Corporation Road, Casnewydd, yn yr 1950au – gwrthrych sy’n dod â dyddiau cynnar chwyldro anferth yn fyw. Mater o frys mwy yw’r ffaith bod pob math o wrthrychau gwyddonol yn sicr o fod ar hyd a lled Cymru sy’n haeddu cael eu casglu, neu sydd â gwir angen eu hachub. Beth sydd yna? Pa straeon sydd i’w dweud amdanyn nhw? O, na fydden ni’n gwybod.

Beth sydd ei angen?

Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw Amgueddfa Wyddoniaeth. Y broblem yw fod anwybodaeth am hanes a threftadaeth gwyddoniaeth yng Nghymru yn eang a dwfn. Mae angen ymchwilwyr arnon ni i ddarganfod ein hanes:

  • Haneswyr sy’n gwybod am gyfnodau, llefydd, digwyddiadau, pobol, rhwydweithiau a dulliau hanesyddol.
  • Gwyddonwyr a pheirianwyr sy’n gwybod am eu pwnc, o ran damcaniaeth a gwaith ymarferol, ac sydd â diddordeb mewn hanes.
  • Gwarchodwyr a chyfeillion treftadaeth ddiwydiannol sydd â gwybodaeth gyflawn am ddatblygiadau penodol mewn lle neu amser penodol.

Mae ymchwil o’r fath yn ffynnu yn nwylo’r amatur a’r hanesydd proffesiynol. Er mwyn adeiladu treftadaeth wyddonol Cymru, rhaid i ni rannu gwybodaeth ac addysgu ein gilydd. Beth sydd ei angen i roi cychwyn ar bethau? Dylai academwyr ar draws Prifysgolion Cymru wneud hyn:

  • Sefydlu cwrs o ddarlithoedd prifysgol ar Hanes Gwyddoniaeth Cymru.
  • Cynyddu nifer y papurau a’r llyfrau dysgedig.
  • Trefnu cynadleddau a chyhoeddi’r cofnodion.
  • Sgrifennu llyfrynnau ar bynciau yn hanes gwyddoniaeth Cymru sy’n cynyddu ein dealltwriaeth o ddechreuadau, hanesyddiaeth a natur gwyddoniaeth.
  • Sgrifennu llyfr poblogaidd i gyflwyno hanes gwyddoniaeth Cymru i ddangos bodolaeth y pwnc.

Dylai Amgueddfa Genedlaethol Cymru wneud hyn:

  • Eu hargyhoeddi eu hunain bod gwyddoniaeth o’u cwmpas ym mhobman yn eu casgliadau.
  • Creu rhestr o wrthrychau yng Nghymru.
  • Ail gofrestru’r gwrthrychau gwyddonol sydd ar gael mewn casgliadau.
  • Casglu’n rhyngwladol.
  • Creu rhwydweithiau lleol o bobol wybodus.
  • Dechrau casglu hanes llafar gwyddoniaeth.

Yn fyr, dylem fod yn cymhathu hanes gwyddoniaeth a’i wneud yn rhan o astudio Cymru a hanes Cymru. Dylem fod yn cysylltu pobol broffesiynol ac amaturiaid o’r cymunedau hanesyddol a gwyddonol gyda churaduron amgueddfeydd, casglwyr ac archifwyr.

Dylem nodi pen-blwyddi. Er enghraifft, mae 2010 yn 500 mlynedd ers marwolaeth Robert Recorde o Ddinbych y Pysgod a ddyfeisiodd yr arwydd hafal, =. Mae hefyd yn 200 mlynedd ers genedigaeth John Dillwyn Llewellyn, botanegydd a ffotograffydd arloesol a aned yn Abertawe.

Dylem godi cerfluniau, fel yr un a godwyd gan ynni-garwyr Woking i William Grove o Abertawe. Gallem hefyd sefydlu casgliadau lleol mewn amgueddfeydd a chreu archifau lleol o ddogfennau, gwrthrychau, cyfweliadau a hen bethau. Yn sicr, dylem godi cannoedd o blaciau glas. Mae posibiliadau mawr o ran creu gwefannau, rhaglenni dogfennol a dramâu yn syml trwy rannu’r hyn y mae’r cyfryngau eisoes wedi’i greu.

Mae bron yr holl gasgliadau mawr yn ein sefydliadau ni wedi eu seilio ar gasgliadau amatur, preifat. Un angen sylfaenol fydd osgoi parlys a melltith hypnotig toriadau mewn gwario cyhoeddus. Daw gwir gryfder amaturiaid o’r ffreshni a’r rhyddid sy’n codi o wneud rhywbeth yr ydych am ei wneud, gan wybod ei fod werth ei wneud.

Mae fersiwn gwreiddiol yr erthygl yma ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig fan hyn: http://www.clickonwales.org/2010/08/wales-needs-a-science-museum/

Diwrnod ola’r wyl…

gwyl y dyn gwyrdd

Amser troi sha thre

Llun: 8.30yb – amser pacio’r car a mynd adre. Pawb lan yn eithaf cynnar i fwynhau’r mymryn lleiaf o haul cyn troi sha’ thre. Er gwaetha’r tywydd 95% ofnadwy, dw i di mwynhau mas draw ond yn edrych mla’n at fynd nol getre i dy glan yng Nghaerdydd….
Tan y tro nesa, Dyn Gwyrdd…

2yb – noson fach ‘gynnar’ heno bois – nos da ganol ha.

12yb – ma nhw’n llosgi’r ‘wickerman’ enfawr ar ben y rhiw cyn hir – er ei bod hi’n pistyllio i lawr ma na bob math o berfformiadau, tan gwyllt a bloeddio pantomeimaidd. Golygfa drawiadol, ond mae’r ieir/geifr lleol – a’r actor Edward Woodward druan – yn ddiogel fan hyn – does dim aberthi i fod yn yr ŵyl ma…
Aros am dipyn i weld Sheelanagig – band jazz sipsi yn ôl y rhaglen. Swnio fel bar mitzvah byrlymus o bell!

10.30yh – Joanna Newsom – y delynores drawiadol a mympwyol. Neu “od iawn” fel y byddai fy ffrind yn dweud yn blwmp ac yn blaen. Chi un ai’n licio’r llais merchetaidd (bron babanaidd) hi, neu ddim. Does dim dwywaith amdani ei bod hi’n athrylith gerddorol – hi a’i band o gerddorion sesiwn. Gwych. Ond mae’r glaw yn bygwth  poblogrwydd y set, gyda llawer yn methu godde’r pistyllio diddiwedd. Fodd bynnag, set a diweddglo ffantastig gan un o ffefrynnau’r ŵyl.

9.30yh – Dim ond jesd dal diwedd set y Tindersticks sy’n swnio’n dda ac yn cael ymateb gwych – cael pryd o dafod gan fy ffrindiau am mod i’n “rhedeg bant i siarad gyda phobl heb ddweud lle dw i’n mynd ac yn peri i bawb golli dechrau/diwedd setiau”. Wps.

8.30yh – Girls – band o….ddynion! Un o fy ffefrynnau o’r ŵyl – set hyderus a bywiog sy’n creu argraff ar bob un o’m ffrindiau. Rhyw gymysgedd rhyfedd o gerddoriaeth fodern ond hefyd rhywbeth hen ffasiwn iawn sy’n fy atgoffa i o Buddy Holly.

7.15yh – gwylio peth o set Mumford & Sons ar y prif lwyfan – dw i ddim yn ffan enfawr ond yn mwynhau set nerthol, talentau aelodau’r band sy’n chwarae nifer o offerynnau yr un – ac wrth gwrs y steil ‘country gent’ sydd ganddyn nhw. A dweud y gwir, ers i mi nodi taw crys siec a barf yw steil nodweddiadol yr ŵyl ma, dw i di bod yn sylwi ar thema arall: Welis Hunter, siacedi Barbour a mwfflers à la y Frenhines ei hun. Bonheddwr mawr o’r Bala yn wir.

6.15yh – Sparrow & The Workshop – yn ôl y rhaglen, mae’r band yma wedi chwarae mewn amryw lefydd od, gan gynnwys y tu mewn i flwch nwyddau ar long. Ond dyma nhw ar lwyfan Tafarn y Dyn Gwyrdd – hoffi llais y ferch sy’n canu ac mae’r cyfuniad o aelodau Cymraeg, Americanaidd ac Albanaidd yn amlwg yn gyfuniad sy’n gweithio!

5.30yh – ma’n ffrind i ar y ffordd i wylio’r ffilm Ffrengig wych ‘A Bout de Souffle/Breathless’ sy’n dangos yn y babell sinema. Er nad wy wedi cael cyfle eleni i ymweld a’r rhan yma o’r safle, mae’n dda gwybod bod na gornel tywyll a thawel i guddio ynddi os oes angen…

4.30yh – Dw i di llwyddo i fethu’r sesiwn beirdd o Gymru ond yn gwneud fyny am hyn drwy wneud fy ffordd i’r babell len ar gyfer cyfraniad Tu Chwith i’r rhaglen – ma’r babell yn ymddangos yn reit llawn sy’n grêt. Cerddoriaeth gan Mr Huw (neis iawn) a dyrnaid o ddarlleniadau diddorol, gan gynnwys tro gan ein Rhiannon ni yn Golwg. Ar y diwedd, ma na ymdrech go dda at gael y gynulleidfa i helpu cyfansoddi can yn y fan a’r lle drwy floeddio lyrics mas – posib y byddai rhywbeth fel hyn yn gweithio’n well yn hwyrach mlaen dan ddylanwad alcohol!

2yh – Hmmm, teimlo’n go bles gyda fy hun heddiw – 3 sesiwn o lenyddiaeth ar fy amserlen! Cyrraedd y babell len i weld prosiect ‘In Chapters’ sydd wedi ei guradu gan Richard James. Dw i di colli’r sesiynau blaenorol yng nghanolfan gelf Chapter yng Nghaerdydd dros y misoedd diwethaf felly edrych mlaen at hwn . Hmm, diddorol – Richard a’i fand yn chwarae caneuon ac yn cyfeilio i ddarlleniadau am yn ail. Ma ‘na ddarlleniad gan y cerddor cŵl o Efrog Newydd Simon Felice sy’n chwarae nes mlaen felly ma na waith wedi mynd i mewn i’r holl beth o guradu mae’n amlwg. Y thema yw llofruddiaeth – ma un o’r ‘darlleniadau’ yn cynnwys rhestr o’r bobl ma’r perfformiwr yn nabod sydd wedi llofruddio/cael eu llofruddio. Jyst y peth ar gyfer pnawn Sul – NID!

Sul: Anodd iawn yw’r hen flogio ma o ŵyl fwdlyd awyr agored pan ma’r tywydd mor uffernol! Ma’r dongle yn cau gweithio a’r iphone newydd druan yn cael ei olchi’n rheolaidd gan gawodydd o law. Yn anffodus dw i’n gorfod mynd i helpu ffrind gyda’i offerynnau peth cyntaf pnawn ‘ma ac felly’n colli Brigyn – bydden i di hoffi’u gweld nhw hefyd ac i glywed stwff Saesneg newydd sydd yn ôl pob sôn, ychydig yn wahanol i’r gerddoriaeth hyd yn hyn. Dim ots, bydd cyfle eto…

Gwyl y Dyn Gwyrdd – ysbeidiau heulog…

gwyl y dyn gwyrdd

llond lle o bobl

Sul: 10yb. Derek y Dyn Tywydd yn gwybod ei stwff – mae’r tywydd yn dal i wella. Fel ffwrnais yn y babell! Disgwyl mlaen heddi i weld Joanna Newsom y delynores drawiadol, prosiect In Chapters Richard James a gobeitho dwrnaid o fandiau o Gymru, gan gynnwys Brigyn. Nol cyn hir…

5.30yb – gwely!

12.30yb – yn Nhafarn y Dyn Gwyrdd yn dawnsio fel ffwl i’r djs poblogaidd Guilty Pleasures, sy’n chwarae oriau o cyfars diddorol o ganeuon bluegrass i Bowie.

11.30yh – The Flaming Lips, hwre! Set arbennig yn llawn balwnau enfawr, tafluniadau go sosi a’r prif ganwr Wayne Coyne yn crwydro uwchben y dorf mewn swigen enfawr – dw i eisie tro! Heblaw am ffrogau oren y merched, yr unig wisgoedd ffansi sydd gan y band heno yw un arth enfawr sy’n cario Wayne ar ei ysgwyddau yn ystod un o’r caneuon – dw i ddim yn credu y bydden i wedi gallu gwneud ‘ny chwaith…

9.45yh – gwylio band o’r enw First Aid Kit, sef dwy chwaer o Sweden sy’n swnio’n fwy tebygol i bar o hen ddynion yn eistedd ar bortsh yn Kentucky. Mwynhau eu fersiwn hudol o un o ganeuon y Fleet Foxes yn fawr.
Gweld rhywun yn hwyrach mlaen sy newydd wylio y digrifwr Gareth Brand o Gaerdydd – un i wylio mae’n debyg.

8yh – Newydd glywed ein bod wedi colli’r cyfle o ran cadarnhau ein presenoldeb ar y llwyfan gyda’r Flaming Lips – rhy brysur yn joio, drat!

7yh – gwylio band o’r enw Avi Buffalo – marciau uchel am gael drymiwr benywaidd.

5.30yh – gwylio rhyw ugain munud o’r bardd pync John Cooper Clark, sydd yn ol pob tebyg yn ddylanwad mawr ar yr Arctic Monkeys. Mae e’n ddiddanwr gret ac yn dal sylw’r dorf enfawr yn yr un ffordd ag y gwnaeth Howard Marks llynedd. Teimlo ychydig yn fwy diwylliedig felly’n haeddu peint arall o seidr cryf i ddadwneud yr holl waith da.

4yh – gwrando ar Y Niwl o du fas y babell sinema. Un o fy hoff fandiau Cymraeg ar hyn o bryd, gyda’u cerddoriaeth offerynnol fywiog. ‘Garage surf’ medde rhywun… Yn anffodus, dw i’n colli band newydd Richard James, Pen Pastwn ond yn benderfynol o’i weld yn perfformio fory felly panig drosodd.

3yh – clywed seiniau bywiog y Race Horses o’r prif lwyfan felly bant a fi i’w gweld nhw. Jesd fel y profiad o weld El Goodo, ma fe’n gret weithie i gael band popaidd i dorri fyny llawer o’r setiau gwerinol. Set wych a nerthol.

1yh – Diolch i’m statws fel un o ‘wags’ El Goodo, dw i’n gwario’r oriau nesa fel tipyn o grwpi, yn stelcio enwogion (Billy Bragg, Wayne Coyne!), yn yfed bybli ac yn gwylio’r bois yn gwneud cyfweliad gyda Bethan Elfyn, ac yn chwarae set fyw ar gyfer gorsaf radio y Dyn Gwyrdd – rhywbeth hollol newydd a chyffrous am eleni.
Yn pasio Jo a Danny ar y ffordd o’r babell, sef y cerddorion lleol a ddechreuodd yr wyl wyth mlynedd yn ol. Y ddau yn gwenu o glust i glust.
HWRE! Fy nghariad wedi cael sgwrs gyda Wayne Coyne, prif ganwr The Flaming Lips ac mae ein henwau i lawr  (fi a ffrind) i ymuno a’r band ar y llwyfan mewn gwisgoedd ffansi heno!

Sadwrn. 12yh – Cyrraedd ar y dot i wylio set El Goodo o Gastell Nedd. Er ei bod hi’n pistyllio i lawr, ma na lot fawr o bobl yma i’w cefnogi ac mae’r band yn chwarae set fendigedig, yn llawn allweddellau chwyrliog, rhythmau carlamus a phop baroc. Ma’r trwmpedwyr yn swnio’n ffantastig ac ma’r diweddglo’n llawn brwdfrydedd. A’r eiliad ma’r set yn dod i ben? Haul.

Gwyl y Dyn Gwyrdd – mwd, ond joio….

gwyl y dyn gwyrdd

welis - angenrheidiol

Sadwrn: 9yb – Dal i lawio ond bore da iawn yn ystyried campau ‘Jon’ neithiwr…. edrych mlaen yn arw heddiw i ddechre’r diwrnod yn gwylio band fy nghariad – El Goodo o Gastell Nedd.  Ma na gannoedd o fandiau eraill o Gymru yn chwarae heddiw yn cynnwys Race Horses, The Gentle Good, Y Niwl, Pen Pastwn (un o brosiectau newydd Richard James os dw i di deall yn iawn) a Sweet Baboo. Disgwyl mlaen i weld Billy Bragg, Avi Buffalo , a The Unthanks hefyd.

Ond yr un mawr fydd The Flaming Lips heno – hwre. Mae sioeau’r bois ma yn llawn gwisgoedd rhyfedd, balwnau, pypedau, tafluniadau fideo a chonffeti. Croesi bysedd y byddai’n taro mewn i Wayne Coyne – y dyn tal, llwyd-farfog sy’n prif ganwr iddyn nhw. Yn ôl fy ffrind Elin o Gastell-Nedd sydd eisoes wedi ymuno a’r band ar lwyfan wedi gwisgo fel UFO, “ma Wayne yn dueddol o wahodd merched bach byr i’r llwyfan yn ystod ei set gan mai dim ond nhw sy’n gallu ffitio i mewn i siwtiau gwisg ffansi y band”. O’r diwedd, ma na rywbeth gwych wedi dod o lyncu dwr sbeshal ardal Dyffryn Teifi sy’n gwneud i bron pob merch o’r ardal yr un seis a hobbit!

5yb – Ma na griw o fechgyn yn y babell drws nesa yn creu twrw tan rhyw bump o’r gloch – grrrr. Clywed dau ohonyn nhw’n trio helpu’r trydydd (Jon) yn ei feddwdod – mae e wedi colli ei iphone newydd, ac yn chwydu bobman rhwng ysbeidiau o lefen y glaw. Yn clywed un yn esbonio i rywun arall taw doctor yw Jon – typical!

11.30yh – picio draw i weld y Doves – ‘dyn nhw ddim un o’r bandiau mwya’ cyffrous yn fy nhyb i ac yn ddewis rhyfedd mewn ffordd i’r Dyn Gwyrdd – ond mae’r ŵyl yn trio cynnwys pethau heblaw am gerddoriaeth werinol ei naws er mwyn ehangu’r diddordeb. Treulio gweddill y noson yn dawnsio, yn yfed seidr ac yn cwrdd lan gyda ffrindie dw i heb weld ers oesau. Joio mas draw er gwaetha’r glaw.

9.45yh – Beirut – gwych ac yn defnyddio amryw offerynnau o’i deithiau ym Mecsico. Un o’r uchafbwyntiau mor belled o bosib… Clywed wrth ffrind bod Charlotte Church yn yr ŵyl – tsk! – ma nhw’n gadael unrhyw un mewn dyddie ma! Tybed a yw hi yma i weld Jonathan Powell a gafodd ei alw’n “athrylith a thrysor bach” gan BBC Radio Cymru ac wedi cyd-ysgrifennu a recordio sawl trac gyda Ms Church.

Heb gyrraedd y babell len/gomedi/sinema eto felly bydd rhaid i’r llenydda aros tan ddydd Sul gyda’r sesiwn Tu Chwith/Beirdd o Gymru – sdim byd fel tamaid o lenydda i wneud yn iawn am yr holl yfed ma. Fy nghariad wedi taro mewn i Dyl G, cyfarwyddwr Seperado!, oedd yn mwynhau peint, felly cymryd ei fod wedi cael ymateb arbennig yn y dangosiad.

7yh-  treulio peth amser yn Llwyfan Far Out yn mwynhau Sleepy Sun o Galiffornia – problemau technegol ond seiniau diddorol a Steve Mason, gynt o’r Beta Band – gwych.

6.45yh – Caitlin Rose – merch o Nashville yn llenwi’r prif lwyfan yn reit hyderus a dweud y gwir – mwynhau storïau ei chaneuon yn fwy na dim. Edrych o gwmpas – os oes na iwnifform ar gyfer yr ŵyl, dyma hi – crys siec, barf, gitâr, peint.  

3yh – Chwerthin yn dawel bach wrth feddwl ei fod yn glir taw ‘pobl greadigol’ o Lundain sy’n bennaf gyfrifol am raglen (wych) yr ŵyl – er enghraifft, dw i ddim yn hollol siŵr y byddai’r artistiaid crwydrol rhyfedd sy’n lansio’n sydyn ar bobl yn cael yr un ymateb gan ddynes fach o Shir Fôn yn y Steddfod. Ry’n ni’r Cymry yn fwy debygol o redeg bant!

Cerdded o gwmpas – ma na gymaint i wneud – Gardd Einstein yn arbennig yn apelio ac yn llawn arbrofion, sgyrsiau diddorol a lliw. Ma’r ŵyl yn arbennig ar gyfer teuluoedd hefyd gyda chyfleusterau a digwyddiadau ar eu cyfer.

2yh – I ddyfynnu Euros Childs: “Bwydtime!”. Www, ma stondinau’r Dyn Gwyrdd yn fy atgoffa i o’r ‘Food Hall’ ers dalwm yng Nghaerdydd – neuadd enfawr yn llawn bwydydd o bob cwr o’r byd. Setlo am fyrgyr cig carw lleol – neis iawn. Teimlo mod i’n bwyta bob pum munud yn yr ŵyl ma.

Gwener: 1.15yh – gwylio Spencer McGarry Season – roedd e’n arfer gweithio’n y Cynulliad gyda’m chwaer i, ond heddiw mae ganddo statws llawer yn fwy cŵl… Dw i’n mwynhau ei set hyderus, ond beth sy’n fy niddori i yw’r baby grand piano ma nhw’n ei ddefnyddio – diawch, roedd hi’n ddigon o jobyn i ‘nghariad sy’n chwarae mewn band fory i ddod a’i gitâr yma’n ddiogel!

Tymor y Dwli

Tybed beth yw Silly Season yn Gymraeg? Wel, r’yn ni yng nghanol hwnnw ar hyn o bryd (pam arall fyddai  Rhan i Dan wedi cael cymaint o sylw?) ac mae’n ryddhad i ddweud na fydda i wrth fy ngwaith tan fis Medi nawr. Tybed erbyn i fi ddod nôl a fydd holl staff  awdurdod S4C wedi ymddiswyddo? Gobeithio na ddigwyddith unrhywbeth rhy gyffrous dros y deg diwrnod nesa ‘ma!

Mae tymor difyr o’n blaenau pan ddaw’r ACau nôl o’u gwyliau, bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau cyflawni holl addewidion cytunded Cymru’n Un cyn yr etholiad tra bydd dwy blaid y glymblaid yn ceisio cymeryd y clod am bob llwyddiant o’r cytundeb hwnnw yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad, a’r ddwy wrthblaid yn ceisio profi bod eu cynrychiolwyr yn San Steffan yn gwneud gwaith da dros Brydain yn y glymblaid yno er mwyn cael pleidleisiau iddyn nhw’u hunain fis Mai nesaf. Ar ben hynny, gallwn ni edrych ymlaen i glywed yn union pwy fydd yn cynrychioli pa etholaethau dros y pleidiau gwahanol yn yr hydref. Mae refferendwm ar bwerau deddfu llawn i ddod cyn mis Mawrth felly gallwn ni ddisgwyl clywed am ffurfio’r ymgyrchoedd Ie a Na yn fuan hefyd.

Fel y dywedodd cyd-weithiwr i fi -haf hesb, ond hydref byrlymus gobeithio!

Shwmae o Wyl y Dyn Gwyrdd…

gwyl y dyn gwyrdd

gwyl y dyn gwyrdd

Wel dyma ni yn wythfed Gŵyl y Dyn Gwyrdd ac mae Bannau Brycheiniog yn ymddangos yn hudolus o niwlog. Hynny yw – glaw, glaw… a mwy o law. Ond fel mae’n chwaer i Nia wastad yn dweud: “Gall pethe byth fod mor wael â’r profiad o wersylla yng nghanol gwynt, glaw a mwd Steddfod Tyddewi, Lowri!”.
Eleni, gwerthodd tocynnau’r ŵyl i gyd yn yr amser byrraf erioed – un person a fyddai wedi “methu’r cwch yn llwyr tra bod pawb arall wedi ei ddal” oedd Hefin Jones – ond diolch i gystadleuaeth golwg 360 oedd yn cynnig pâr o docynnau euraidd anodd-eu-cael, mae e yma ac yn gallu mwynhau gyda’r gorau – gair o’r buddugol felly – “Diolch! Dw i’n sicr am ddal The Gentle Good o Gaerdydd gan mod i’n ‘chydig o groupie dyddia’ ‘ma. Bur debyg y byddai’n anelu at ddal Joanna Newsom, The Flaming Lips a’r Chew Lips hefyd – mae Billy Bragg yn angenrheidiol wrth gwrs, a mwy na thebyg Brigyn hefyd. Mae na gymaint i wneud mae’n hurt”.
Ti’n iawn am hynny Hef, felly deifio i mewn i’r rhaglen yw’r drefn (fersiwn yn y Gymraeg blwyddyn yma hefyd – da iawn ti’r Dyn Gwyrdd) a dw i’n barod yn ysu am weld degau o bethau yn cynnwys llenydda o Gymru (Rachel Tresize ayb), y ffilm wych ‘Separado!’ yn serennu Gruff Rhys, heb sôn am y gerddoriaeth – felly’n dechrau ar y trywydd iawn, dw i am gefnogi bachan o Gaerdydd – Spencer McGarry Season sy’n chwarae cyn hir. Hwyl am y tro!

Canlyniadau Lefel-A Cymru

Dyma’r Canlyniadau Lefel-A ac AS ar draws Cymru.

Lefel-A

Pwnc Nifer y cofrestriadau Canran Graddau A* – E Canran yn ennill Gradd A (yn cynnwys A*) Canran yn ennill Gradd A*
2009 2010 2009 2010 2009 2010 2010
Almaeneg 244 209 100.0 97.1 33.6 33.0 8.6
Astudiaethau Busnes 967 1025 98.4 96.8 17.6 16.6 3.5
Astudiaethau Crefyddol 1223 1345 98.9 97.5 25.4 21.2 3.9
Astudio’r Cyfryngau / Ast. Ffilm1 1307 1380 99.2 97.9 15.2 14.6 2.0
Bioleg 2641 2712 95.5 96.2 25.5 25.4 5.5
Cemeg 2188 2132 96.4 97.3 33.8 32.8 8.5
Cerddoriaeth 734 689 98.9 98.7 15.5 20.3 2.6
Chwaraeon / Astudiaethau AG 1121 1093 96.5 96.5 12.0 12.9 2.8
Cymdeithaseg 1243 1294 97.9 96.2 21.2 23.3 6.6
Cymraeg (Ail Iaith) 595 496 98.5 97.4 18.0 16.5 2.6
Cymraeg (Iaith Gyntaf) 346 362 99.7 99.4 21.4 22.9 5.0
Daearyddiaeth 1866 1732 98.6 98.2 25.3 22.9 4.6
Drama 911 922 99.2 98.9 23.4 16.9 4.1
Ffiseg 1474 1450 94.3 95.1 28.1 27.2 8.1
Ffrangeg 866 711 99.0 96.9 33.6 32.2 5.3
Hanes 3223 2776 99.4 99.4 26.4 25.3 5.5
Mathemateg 3165 3362 97.3 97.2 43.5 44.2 13.1
Pynciau Celf a Dylunio1 2224 2247 98.0 98.7 29.9 30.7 12.9
Pynciau Technoleg1 1006 1013 97.3 97.1 11.8 11.0 2.6
Saesneg2 4080 3732 99.7 98.4 22.4 20.3 6.7
Sbaeneg 268 220 98.1 95.5 29.9 30.5 5.9
Seicoleg 1700 1730 95.0 94.2 17.4 13.9 3.9
TGCh/Cyfrifiaduro1 2021 1849 96.2 94.6 13.3 11.7 2.1
Y Gyfraith 999 769 96.3 92.3 19.9 24.1 6.2

Y blynyddoedd blaenorol

Canrannau cronnus y flwyddyn 2005 2006 2007 2008 2009 2010*
Gradd A 23.7 23.9 24.1 24.1 25.0 24.4
Graddau A-E 96.8 96.9 97.1 97.6 97.6 97.1

Lefel-AS

Pwnc Nifer y cofrestriadau Canran Graddau

A – E

Canran yn ennill Gradd A
2009 2010 2009 2010 2009 2010
Almaeneg 284 283 86.6 89.4 19.4 24.4
Astudiaethau Busnes 1405 1392 83.5 84.8 11.1 13.0
Astudiaethau Crefyddol 1826 1862 89.2 90.9 17.1 16.2
Astudio’r Cyfryngau/Ast. Ffilm1 1839 1909 94.6 94.7 15.5 9.3
Bioleg 3804 3825 80.3 81.6 15.6 16.6
Cemeg 3047 3269 82.8 84.2 19.1 18.0
Cerddoriaeth 927 918 92.2 93.4 13.3 14.6
Chwaraeon / Astudiaethau AG 1478 1450 82.3 82.2 7.7 9.2
Cymdeithaseg 2002 1915 82.1 82.2 14.8 14.5
Cymraeg (Ail Iaith) 683 785 96.5 97.6 16.5 19.3
Cymraeg (Iaith Gyntaf) 347 353 99.4 99.4 21.9 26.3
Daearyddiaeth 2042 2049 85.5 89.0 17.0 15.5
Drama 1023 1099 95.8 97.2 11.7 14.1
Ffiseg 2205 2225 81.0 79.8 18.3 17.3
Ffrangeg 1107 1001 88.9 88.5 18.7 23.5
Hanes 3220 3239 92.9 94.7 18.3 16.4
Mathemateg 4069 4195 82.4 81.5 30.0 29.1
Pynciau Celf a Dylunio1 3007 3142 94.3 95.5 23.6 21.6
Pynciau Technoleg1 1462 1439 82.9 83.4 7.7 6.7
Saesneg2 4308 4474 95.7 95.7 13.9 13.1
Sbaeneg 297 363 94.3 92.0 28.6 20.1
Seicoleg 2854 2992 74.6 75.1 9.2 10.3
TGCh/Cyfrifiaduro1 2071 2633 82.6 82.6 10.5 7.7
Y Gyfraith 1232 1259 81.8 81.7 15.6 15.7

Y blynyddoedd blaenorol

2005 2006 2007 2008 2009 2010
Gradd A 18.3 18.0 18.1 18.1 16.7 16.3
Graddau A-E 87.6 87.5 87.9 88.5 86.1 86.9

Breuddwyd i Bellamy a Chaerdydd

Craig Bellamy gyda chry Caerdydd

Newyddion chwaraeon mawr yr wythnos…os nad y ganrif, yw trosglwyddiad capten Cymru, Craig Bellamy, o Man City i Gaerdydd. Owain Schiavonr sy’n trafod nifer o gwestiynau sydd wedi codi yn sgil y ddêl.

Mae’r peth yn swnio’n swreal i ddweud y lleiaf, ac mae’n siŵr fod cefnogwyr Caerdydd yn dal i binsio eu hunain gan feddwl mai breuddwydio y maen nhw!

Craig Bellamy yn disgyn safon i Bencampwriaeth Lloegr er mwyn chwarae i’r tîm y mae’n eu cefnogi ers pan oedd yn blentyn gyda’r bwriad o sicrhau eu bod yn cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Bellamy’n siarad am ei drosglwyddiad ar fenthyg a gadarnhawyd ddoe,  fel ‘gwireddu breuddwyd’ ac mae’r freuddwyd yn sicr wedi dod yn wir i nifer o selogion y clwb gyda rhai yn honni mai dyma’r trosglwyddiad mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Adar Gleision.

Er mor gyffrous ydy’r newyddion, mae nifer o gwestiynau’n codi o’r mater.

Gallu ariannol Caerdydd

Y cyntaf, ac o bosib yr un fydd yn peri’r gofid mwyaf i’r cefnogwyr, ydy’r cytundeb ariannol. Mae’n ymddangos y bydd Bellamy’n dal i dderbyn ei gyflog llawn yn Man City o £95,000 yr wythnos am y cyfnod y mae ar fenthyg yng Nghaerdydd.

Does dim sicrwydd ynglŷn â faint yn union o’r swm hwn y mae Caerdydd yn gyfrifol am ei dalu, a’r gred yw bod Man City yn parhau i dalu’r mwyafrif. Wedi dweud hyn, os ydy Caerdydd yn gyfrifol am dalu oddeutu chwarter y swm fel y mae llawer yn amau, yna mae’n dal i fod yn dolc fawr i glwb sydd wedi bod mewn trafferthion ariannol dybryd yn ddiweddar.

Cofiwch chi, efallai bod y ddêl yn benderfyniad busnes digon craff gan y rhai sy’n rheoli yn y brifddinas – mae Bellamy’n sicr o ddenu’r torfeydd ac os bydd yn cael yr impact y maen nhw’n gobeithio amdano ar y cae yna bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn dop wrth i’r tîm frwydro am eu lle yn yr Uwch Gynghrair.

 Mae’r holl fater wedi agor nyth cacwn arall i Brif Weithredwr Caerdydd, Gethin Jenkins, sef bygythiad cyfreithiol gan Motherwell yn yr Alban, sy’n dweud fod ar yr Adar Gleision ddyled o tua £200,000 iddynt nhw. Ond, busnes ydy busnes, ac mae’n annhebygol y bydd Jenkins yn colli gormod o gwsg ynglŷn â’r mater wrth edrych ymlaen at gyfri’r arian tocynnau ar gyfer ymddangosiad cyntaf Bellamy yn erbyn Doncaster ddydd Sadwrn.

Lle i chwarae Bellamy?

Cwestiwn arall fydd yn ennyn ar drafodaeth frwd ymysg cefnogwyr Caerdydd ydy ble fydd y rheolwr, Dave Jones, yn dewis chwarae capten Cymru? Mae gan Gaerdydd eisoes un o’r llinellau blaen mwyaf cyffrous y tu allan i’r Uwch Gynghrair rhwng Chopra, Bothroyd, Whittingham a Burke – mae’n anodd gweld lle all Jones ffitio Bellamy heb aflonyddu ar y tîm.

Mae’r rhan fwyaf o wybodusion yn gytûn mai y llynedd oedd tymor gorau gyrfa Bellamy hyd yn hyn, ac yntau’n chwarae ar yr asgell chwith i Man City – yr un safle ag y perfformiodd mor ddinistriol i Gymru yn erbyn Lwcsembwrg yr wythnos diwethaf. Mae’n taro felly mai yno y bydd Jones yn awyddus i’w weld yng nghrys glas Caerdydd … ond ar draul Peter Wittingham oedd yn brif sgoriwr yr holl adran y llynedd?

Does dim llawer o sgôp gan Jones o ran symud un o’i chwaraewyr ymosodol i ganol y cae chwaith gan fod y chwaraewyr newydd Seyi Olofinjana a Daniel Drinkwater wedi edrych yn dda yn eu gemau cyntaf yn y safleoedd hynny. Rhaid cofio hefyd am un dyn arall sydd wedi arwyddo i City a fyddai, oni bai am saga Bellamy, yn cael sylw eang gan y wasg – Jason Koumas.

Mae Koumas yn un o chwaraewyr canol cae gorau’r wlad ar ei ddydd ac fe fydd yntau’n cystadlu am le yn y tîm ddydd Sadwrn hefyd. O fod mewn sefyllfa lle nad oedd modd iddo arwyddo chwaraewyr o gwbl rai wythnosau nôl, mae gan Dave Jones erbyn hyn ormodedd o dalent ar ei ddwylo – problem, ond problem neis i’w chael!

Cadw trefn ar yr hogia drwg

Mae rhestru’r enwau uchod yn atgoffa rhywun o gofrestr bechgyn drwg cynghrair pêl-droed Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf! Mae Chopra, Bothroyd, Wittingham a Koumas oll wedi bod yn y newyddion am y rhesymau anghywir ac yn adnabyddus fel chwaraewyr ‘anodd’ i’w rheoli.

Mae’n brawf o sgiliau rheoli personél Dave Jones ei fod wedi llwyddo i blethu’r enwau yma yn dîm cytûn, ond sut fydd y chwaraewyr uchod yn ymateb i bersonoliaeth danllyd a phregethu diddiwedd Bellamy ar y cae. Os oes yna un rheolwr all ddygymod â’r sialens, heb os Jones ydy hwnnw. Bydd Bellamy hefyd yn mynnu’r safonau uchaf gan ei gyd chwaraewyr a gall hynny ond bod yn beth da i’r tîm.

Effaith ar y tîm cenedlaethol

Y cwestiwn mawr sy’n parhau yn fy meddwl i ydy sut effaith fydd y trosglwyddiad yn ei gael ar bêl-droed Cymru? O safbwynt datblygiad ehangach pêl-droed y wlad, mae’n beth cadarnhaol wrth gwrs gan ei fod yn cynyddu’r gobaith o gael un o’n clybiau yn yr Uwch Gynghrair a hefyd yn codi diddordeb yn y gêm.

Gan gymryd nad ydy’r clwb wedi ymestyn eu hunain yn ormodol yn ariannol, fe ddylai’r trosglwyddiad dalu ei ffordd gyda gwerthiant tocynnau a chrysau Caerdydd, ac os bydd Caerdydd yn ennill dyrchafiad bydd hynny’n ddiwedd ar eu trafferthion ariannol presennol. Bydd cael tîm yn yr Uwch Gynghrair hefyd yn hwb ariannol mawr i economi Caerdydd, heb sôn am godi hyder yn y ddinas, a’r wlad yn gyffredinol.

Byddai rhywun yn disgwyl i hyn oll gael effaith gadarnhaol ar y tîm cenedlaethol hefyd wrth iddyn nhw gystadlu am le yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop 2012. Os am gyrraedd y nod, bydd angen i Gymru sicrhau fod eu capten ar ei orau a 100% yn ffit … ac yno mae’r gofid i gefnogwyr y tîm rhyngwladol. Mae’r Bencampwriaeth yn cael ei gweld yn un o’r cynghreiriau caletaf ohonyn nhw i gyd.

Bydd disgwyl i Bellamy chwarae yn y mwyafrif o’r 44 gêm gynghrair sydd gan Gaerdydd yn weddill, heb sôn am gemau cwpan di rif a gemau ail-gyfle’r gynghrair petai nhw’n gorffen rhywle rhwng trydydd a chweched safle yn y gynghrair. I chwaraewr sydd wastad wedi’i chael hi’n anodd ymdopi ag anafiadau, bydd hon yn dymor caled.

Mae’n anochel hefyd y bydd Bellamy’n darged i rai o amddiffynwyr caled y gynghrair – un dacl galed wedi ei cham amseru ac fe allai Bellamy a’i bengliniau fod wedi’i hanafu am y tymor. Ond, fel y dywedodd Bellamy ddoe, mae ‘wedi tyfu i fyny yn yr adran yma’ ac mae’n chwaraewr digon profiadol a chlyfar erbyn hyn i ymdopi â’r sialens tra bod Dave Jones hefyd yn rheolwr digon doeth i wybod pryd i orffwys y chwaraewr.

Amser a ddengys ynglŷn â’r cwestiynau uchod, ond am y tro, beth am edrych mlaen i weld un o chwaraewyr Cymreig gorau ei genhedlaeth yn chwarae ei gêm gyntaf i Gaerdydd ddydd Sadwrn.

Llun: Gwifren PA

Gonestrwydd yr Arglwydd Pearson

Dw i ddim yn synnu bod yr Arglwydd Pearson wedi cyhoeddi ei fod yn ymddisgwyddo fel arweinydd UKIP. Roedd y dyn yn destun cryn ddigrifwch i’r rhai oedd yn lansiad maniffesto Cymreig UKIP ar gyfer yr etholiad cyffredinol mewn clwb cychod hwylio ym Mae Caerdydd ychydig fisoedd yn ôl. Doedd ganddo ddim syniad sut i ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau osodwyd iddo gan ddweud “I’m afraid I have no idea. I defer to my colleague John Bufton” byth a hefyd, gan fod lan a lawr fel yo-yo o’r podiwm i wneud lle i ASE UKIP. Pan ddechreuodd ddweud bod Cymru ar ei hennill o gael ei hariannu trwy fformiwla Barnett cyn i rywun ei hysbysu mai’r Alban oedd a’r fantais honno, roedd hi’n glir bod ei siwrne i Gaerdydd yn hollol ofer ac arhosodd John Bufton wrth y ddarllenfa i ateb gweddill y cwestiynau.

O leia roedd yn derbyn yn rhadlon nad oedd syniad ganddo beth oedd ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau. A’i onestrwydd heddiw sydd yn grêt. Mae’n cymeryd llawer i ddyn gyfaddef nad yw’n dda iawn at beth mae e’n ein wneud, ac mae’n sicr yn anodd gwneud y fath beth yn llygad y cyhoedd.

Plentyndod yn yr Ariannin

Dyma waith buddugol Mary Green de Borda, Trevelin, yr Andes a ddaeth yn fuddugol yng  nghystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes. Y testun oedd ‘Plentyndod hyd bymtheg oed’.

Yn ogystal a Mary, mae Menter Iaith Patagonia hefyd yn llongyfarch Esther Evans de Hughes, Esquel a ddaeth yn ail ac Eilyw Pritchard, Rivadavia a Nantlais Evans, Rio Negro am ddod yn gydradd drydydd.

Parhau i ddarllen ‘Plentyndod yn yr Ariannin’

Gorsedd y Dreigiau – fideo o’r gystadleuaeth

Mae cystadleuaeth ‘Gorsedd y Dreigiau’ wedi ei seilio ar y gyfres deledu boblogaeth Dragons’ Den. Gwahoddwyd entrepreneuriaid i gyflwyno cynigiad busnes i banel o Ddreigiau Cymraeg er mwyn ymladd i ddiogelu gwobr gwerth £5,000 ynghyd a chyngor busnes proffesiynol i ddatblygu’r fusnes.

Trefnwyd y gystadleuaeth gan gwmni datblygu economaidd Menter a Busnes a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyda chymorth cwmni Telesgop. Hoffai Golwg360.com ddiolch am eu cymorth wrth ddod a rhai o uchafbwyntiau’r gystadleuaeth eleni i chi.

Llion

Keith

Helen

Y Rownd Derfynol

Guto – enillydd y llynedd

Cliciwch yma i gael darllen ymateb yr enillwyr eleni ar Golwg360.com.

Darlledu Cymru yn nhir neb

Y gynta’ mewn cyfraniadau rheolaidd o wefan y Sefydliad Materion Cymreig. Geraint Talfan Davies yn asesu oblygiadau’r argyfwng yn S4C ac ymateb gwan i Gymru gan Ymddiriedolaeth y BBC.

Ble bynnag yr edrychwch chi, mae cyfnod gwyliau mis Awst yn dangos bod darlledu Cymru mewn tir neb peryglus. Mae’r ffordd amrwd y cafwyd gwared ar Iona Jones, prif weithredwr S4C am y pum mlynedd diwethaf, yn gadael y sianel yn ymladd am ei chyllideb, os nad ei bywyd, yn erbyn llywodraeth sydd fel petai’n mwynhau chwifio’r gyllell.

Does dim cysur o gwbl i Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon am ddyfodol gwasanaethau’r tair cenedl yn y ‘casgliadau cychwynnol’ a gyhoeddodd Ymddiriedolaeth y BBC ar Adolygiad Strategaeth rheolwyr y Gorfforaeth. Mae dyfodol ITV yn parhau’n aneglur, er y gallwn obeithio mai arwydd bod llanw’r newyddion drwg i Sianel 3 yn troi oedd recriwtio newyddiadurwr gwleidyddol uchel ei barch fel Adrian Masters o BBC Wales i fod yn olygydd gwleidyddol i ITV Cymru.

Ynghanol hyn i gyd, gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf yn dadlau bod yr amser wedi dod i ddechrau trafod datganoli’r cyfrifoldeb am ddarlledu. Rhoddodd glod i’r Sefydliad Materion Cymreig am wneud cyfres o awgrymiadau.

O gofio cyflwr presennol S4C a BBC Cymru, byddai modd ystyried bod trafod datganoli darlledu – a fydd, ar y gorau, yn cymryd blynyddoedd i’w gyflawni – yn enghraifft o ganu’r ffidil wrth i Lanishen losgi. Fodd bynnag, mae picil S4C – sy’n cael ei bygwth gan doriadau o 25% yn ystod y pedair blynedd nesaf – a methiant ymddangosiadol Ymddiriedolaeth y BBC i ddeall natur ei gwasanaethau i Gymru, yn tanlinellu’n fwy na dim mai Bae Caerdydd ac nid Llundain yw’r lle i benderfynu’r materion hyn.

Picil S4C

Fyddai neb eisiau’r dasg sy’n wynebu Awdurdod S4C a’r prif weithredwr tros dro, Arwel Ellis Owen. Mae yna sawl darn brys o waith, gydag amserlenni gwahanol: trafod toriadau gyda’r Adran Dreftadaeth yn Llundain yn yr wythnosau nesaf, sefydlogi’r drefn reoli a recriwtio prif weithredwr newydd o fewn y misoedd nesaf ac, yn y flwyddyn nesaf, gwneud y gwaith angenrheidiol iawn o osod strategaeth newydd.

Does fawr o amheuaeth bod angen ailystyried sylfaenol yn S4C. Byddai hynny’n golygu ailasesiad trylwyr o gynulleidfa bresennol y sianel a pherfformiad ei rhaglenni. Ond, yn fwy na hynny, dylai hefyd olygu gwaith i ddod i ddealltwriaeth newydd  ar y cyd o natur bresennol y gynulleidfa Gymraeg a’r ffordd y mae’n defnyddio teledu, radio a gwasanaethau ar-lein.

Ers lansio S4C yn 1982, bu newidiadau anferth yn y gynulleidfa honno, gan gynnwys yn yr hunan-ddehongliad o beth yw bod yn rhugl a hyd yn oed newid yn natur yr iaith lafar. Dyw cyflymder y newid ddim wedi arafu ers dyfodiad y gwasanaeth ar ei newydd wedd ar ffurf ddigidol. Byddai astudiaeth o’r fath yn sicr o fod ag oblygiadau arwyddocaol o ran comisiynu rhaglenni.

Bydd yr holl waith yma’n digwydd yn erbyn ymchwiliad i ymadawiad Iona Jones a’r hyn y mae’n ei ddweud am safon rheolaeth yn S4C. Mae’n rhyfeddol bod sianel a oedd wedi creu conglfaen soled o gefnogaeth eang ar draws yr holl bleidiau ac yng Nghaerdydd a Llundain, wedi gallu taflu’r gefnogaeth honno o’r neilltu mor gyflym. Mewn rhai ffyrdd, mae S4C wedi bod yn ysglyfaeth i’r consensws cynharach hwnnw. Bron nad oedd yn rhy gryf, yn gosod y sianel y tu hwnt i feirniadaeth, ac, efallai’n anfwriadol, yn mygu’r hunanfeirniadaeth fewnol y mae pob sefydliad iach ei hangen er mwyn goroesi.

Mae llawer yn y fantol a dyw’r hinsawdd ddim yn ffafriol o bell ffordd. Nid mater o arian yn unig yw hynny. Yn Llundain yn y blynyddoedd diwethaf, bu arwyddion bod y diffyg dealltwriaeth endemig o Gymru a’i gweithgareddau’n lleihau. Er hynny, mae hynny’n parhau yn achos S4C, gan fod asesu ei chyllideb a’i chynulleidfa’n golygu meini prawf sy’n hollol wahanol i unrhyw wasanaeth darlledu arall.

Mae hen amddiffyniad Willie  Whitelaw wedi treulio’n denau braidd – “mae’n fuddsoddiad mewn cytgord cymdeithasol” – ac mae wedi ei ddisodli gan apêl at rôl darlledu cyhoeddus ym maes y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Roedd adroddiad diweddar a gomisiynwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Ian Hargreaves yn ceisio anadlu bywyd newydd i’r ddadl hon. Roedd yn annog rhagor o drafod am S4C gan awgrymu y dylai gael ei chlymu’n nes at bolisi economaidd Llywodraeth Cymru. Mae peth gafael go iawn yn y ddadl economaidd, ond rhaid iddi fod yn ddadl eilradd yn achos S4C, yn hytrach na phrif reswm. Cafodd ei chreu i ddarlledu a rhaid iddi ddod o hyd i gynulleidfa a’i gwasanaethu cyn ystyried dadleuon eraill.

Yn yr amser byr sydd gan Awdurdod S4C – bydd canlyniadau arolwg gwario Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu cyhoeddi ar 20 Hydref – efallai na fydd yn gallu rhoi’r holl atebion. Eto, rhaid iddo ddangos ei fod yn gofyn y cwestiynau cywir, nad yw’n ofni bod yn hunan-feirniadol a bod y newid ar y brig wedi digwydd am reswm cyhoeddus creadigol.

Rhyfeddol – Ymddiriedolaeth y BBC

Yn y cyfamser, dyw Ymddiriedolaeth y BBC ddim wedi disgleirio chwaith. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd ei ‘chasgliadau cychwynnol’ i Adolygiad Strategaeth rheolwyr y BBC a gyhoeddwyd ym mis Mawrth – yr un a oedd, yn rhyfeddol, wedi methu â sôn o gwbl am y rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. O gofio cryfder yr ymateb gan gyrff yng Nghymru – gan gynnwys barn y Sefydliad Materion Cymreig ei hun – byddai rhywun wedi disgwyl i’r Ymddiriedolaeth feirniadu’r methiant hwnnw’n hallt, gyda gwarant y byddai’r diffyg yn cael ei gywiro.

Yn hytrach, fe gawson ni’r hel dail mandarinaidd arferol, yn hytrach na dicter gwirioneddol ynghylch distawrwydd llethol rheolwyr y BBC … “pryder am y diffyg ffocws ymddangosiadol ar yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon”. Dyw hi ddim yn ymddangos bod yr Ymddiriedolaeth ei hun ddim yn gallu wynebu neu ganolbwyntio ar wasanaethau o fewn cenhedloedd y BBC.

Dyw ei ‘chasglaidau cychwynnol’ ddim yn trafod y mater o gwbl, efallai oherwydd y byddai hynny’n golygu cost ychwanegol. Yn hytrach, mae’r datganiad yn llithro heibio iddo ac yn symud yn gyflym ymlaen at faterion cynhyrchu’r rhwydwaith a sut y mae’r cenhedloedd llai’n cael eu portreadu yn rhaglenni’r rhwydwaith. Os yw Cymru am amddiffyn gwasanaethau’r BBC iddi, rhaid iddi gael yr Ymddiriedolaeth i gydnabod bod y materion hyn yn gwbl ar wahân ac na ddylid bargeinio un yn erbyn y llall.

Tra bod hyn i gyd yn atgyfnerthu’r ddadl tros ddatganoli peth o’r cyfrifoldeb am ddarlledu, bydd hi’n cymryd rhwng pump a deng mlynedd i wneud hynny. Yn y cyfamser, beth bynnag yw’r sefyllfa ffurfiol, dylai’r Cynulliad a’i Weinidogion rhoi heibio unrhyw amharodrwydd i fynd i’r afael â’r Senedd a Gweinidogion yn Llundain, yn ogystal â chymryd y cyfle i roi sgwrfa i Ymddiriedolaeth y BBC. Fel arall, bydd y diwydiant darlledu yng Nghymru yn parhau i fynd i lawr y rhiw tuag at gyni economaidd a diwylliannol.

Mae’r erthygl Saesneg wreiddiol fan hyn.

Ewyllys Gwleidyddol

Fe awgrymes i yma y gallai’r Llywodraeth benderfynu taflu’r mesur iaith arfaethedig yn y bin a dechrau eto. Cefais fy wfftio gan rai ar twitter* mai trefn deddfu yng Nghymru yw i gyflwyno mesur ac yna gynnig gwelliannau. Ro’n i’n ffyddiog na fyddai hi’n amhosibl i ddechrau o’r dechrau (y gyfraith oedd fy mhwnc yn y coleg) ond ro’n i am fod yn sicr. Felly, yn y sesiwn drafod yma roedd gen i ddiddordeb nid yn unig bod Meri Huws yn galw ar y Cymry i drin y mesur iaith arfaethedig fel papur gwyn ac nid deddf arfaethedig (gweler Golwg ddoe) ond hefyd i glywed Emyr Lewis, y cyfreithiwr praff a’r prif wybodusyn ar ddeddfwriaeth ieithyddol yn dweud “Dyw dechrau eto ddim yn opsiwn -ddim yn un gwleidyddol beth bynnag” wrth ddechrau siarad â’r gynulleidfa.

“Ddim yn un gwleidyddol”? Roedd rhaid holi mwy, a chael sgwrs gyflym ar ddiwedd y sesiwn. Ydy, mae hi’n gwbl bosibl i’r Llywodraeth ddechrau eto os ydyn nhw’n dymuno hynny medd Emyr Lewis. Does dim rhwystr yn y byd i’r Llywodraeth dynnu llinell o dan y mesur yma a dechrau eto. Ond pwy yn y byd fyddai’n ddigon dewr i ddweud “Ok, falle i ni gael hwn yn anghywir?” Dim un gwleidydd dw i’n ei adnabod. Felly gallen, gallai’r Llywodraeth ddechrau eto, ond dyw’r ewyllys gwleidyddol ddim yno.

Mwy o sylwadau Emyr Lewis o’r maes yma.

*dilynwch fi ar www.twitter.com/RhiannonMichael

Cyfiawnder Cymraeg

Prin yw’r bobol gyffredin sy’n mynd i glywed darlith eisteddfodol flynyddol Cymdeithas y Gyfraith ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithwyr sy’n mynd gan fwyaf, wrth reswm ond yn aml mae’n nhw’n cael siaradwyr diddorol ac mae’r pynciau’n gallu bod yn addysgol  felly galwes i mewn. Doedd y siaradwr eleni, Mr Ustus David Lloyd Jones, Prif Farnwr Llywyddol Cymru, ddim yn areithiwr ysbrydoledig ond roedd yr hyn oedd ganddo fe i’w ddweud yn ddiddorol o’i ddarllen.

Trafododd e lawer o bethau yn ei 40-50 munud o sgwrs, gan gynnwys pwysigrwydd cyfreithwyr sy’n deall datganoli yng Nghymru, rhywbeth drafododd Carwyn Jones pan wnaeth e’r un araith tra’n dal i fod yn Gwnsler Cyffredinol. Yr hyn dw i eisiau rhannu yw’r newyddion da oedd gan Mr Ustus, sef bod defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd yn fwy-fwy cyffredin ac yn dod yn haws.

Mae 50 o farnwyr yng Nghymru all gynnal achosion yn y Gymraeg ac mae nifer yn fwy sy’n medru digon o’r Gymraeg i glywed tystiolaeth yn yr iaith yn ôl David Lloyd Jones. Cyn bo hir, fe fydd modd hysbysebu am ynadon sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Prif Farnwr yn dweud bod y nifer uchel o Farnwyr Cymraeg eu hiaith yn arwydd o “statws Cymraeg cryf y farnwriaeth yng Nghymru.” Fe gyfaddefodd e fodd bynnag bod camgymeriadau gwachul yn dwyn anfri ar y system gyfiawnder, yn benodol sut y bu i’r weinyddiaeth ’anghofio’ am y Gymraeg wrth ddatblygu’r system weinyddol i’r llysoedd, Libra, a gwysion yn cael eu hanfon allan yn un-ieithog am gyfnod, er bod darpariaeth Gymraeg yn ofynnol yn statudol.

“Ni allaf honni mai stori llwyddiant yw hon drwyddi draw,” meddai. “Yn benodol, rydym wedi cael trafferthion mawr wrth geisio cyflwyno systemau technoleg gwybodaeth sy’n darparu gwasanaeth dwyieithog. Fodd bynnag, credaf fod llawer iawn wedi ei gyflawni’n barod, a gallaf eich sicrhau bod yna ymrwymiad gwirioneddol i fodloni’r galw cynyddol i ddarparu gwasanaethau llys yn y Gymraeg.”

Pennaeth PR newydd S4C

Sioe Môn – fideo o’r sioe

Ddechrau’r wythnos fe gynhaliwyd Sioe Môn ar y maes arferol ger Gwalchmai. Mae’r sioe erbyn hyn yn un o uchafbwyntiau calendr sioeau amaethyddol Cymru.

Mae Golwg360.com wedi bod yn cydweithio â S4C a chwmniau cynhyrchu Telesgop a Rondo i ddod a rhai o uchafbwyntiau’r Sioe eleni i chi ar ffurf ffilm. Isod ceir clipiau fideo o rai o’r prif enillwyr y categoriau amrywiol.

Cofiwch hefyd y bydd rhaglen ‘Sioe Penfro’ yn cael ei darlledu ar S4C, nos Fercher 18 Awst am 9pm a Nos Iau 19 Awst am 8.25pm. Gallwch weld amserlenni llawn S4C ar Hafan Golwg360.com.

Y Babell Flodau

Gafr a dafad

Lleisiau’r Profiadol

Moch

Llais yr Ifanc

Ceffylau

Cwningod

Defaid

Gwartheg

Cymru v Lwcsembwrg – sgorio’r chwaraewyr

Craig Bellamy

Cymru v Lwcsembwrg – sgorio’r chwaraewyr

Roedd y fuddugoliaeth yn un gyfforddus i’r Cymry ar Barc y Scarlets, ond pa berfformiadau unigol oedd yn sefyll allan? Owain Schiavone sy’n asesu safon y chwaraewyr.

Wayne Hennessey – Anlwcus gyda’r gôl yn ei erbyn wrth i’r ergyd wyro oddi ar droed un o’i amddiffynwyr. Dim problemau fel arall. 6/10

Sam Ricketts – Gêm dawel ond ddigon taclus. Prin iawn oedd ei rediadau ymosodol arferol. Tebygol o golli ei le os yw Bale yn ffit, ond handi i’w gael yn y garfan. 6

Chris Gunter – Fel Ricketts, tawel ond effeithiol. Dim problemau’n amddiffynnol a gwelwyd rhai rhediadau ymosodol ganddo tuag at ddiwedd y gêm. 6

Ashley Williams – Roedd cymysgwch rhyngddo a Morgan ar gyfer gôl yr ymwelwyr ond fel arall yn soled fel arfer ac yn dechrau sefydlu ei hun fel un o’r enwau cyntaf yn nhîm Tosh. 8

Craig Morgan – Wastad wedi bod â photensial enfawr, ac yn dechrau edrych fel amddiffynnwr rhyngwladol sy’n gallu camu i esgidiau James Collins pan nad yw ar gael. 7

Joe Ledley – Hanner cyntaf digon swta ond yn chwaraewr gwahanol gyda Vaughan wrth ei ochr yn yr ail. Gwaith da droeon rhyngddo a Bellamy. 8

David Cotterill – Ei gêm orau dros Gymru hyd yn hyn. Os all berfformio’n gyson i Abertawe eleni fe allai fod yn gaffaeliad i Gymru. 8

Brian Stock – Ei chael hi’n anodd codi i safon pêl-droed rhyngwladol. Rhai cyffyrddiadau’n awgrymu fod potensial ond angen profiad gyda chlwb ar safon uwch. Cymerodd Vaughan ei le yn y canol i newid y gêm. 5

Craig Bellamy – Seren y gêm. Hanner cyntaf rhwystredig ond yn wych yn yr ail wrth i basio Vaughan gael y gorau allan ohono ar yr asgell chwith. Roedd y newid siâp i 4-5-1 hefyd yn rhoi mwy o ryddid iddo. 9

Steve Morison – Fe weithiodd yr ymosodwr mawr yn galed yn ei gêm ryngwladol gyntaf gan roi llwyfan da i’r ymosod. Anodd credu ei fod yn chwarae i Stevenage Borough ychydig dros flwyddyn yn ôl! Rhywbeth i’w gynnig i Gymru yn y gemau rhagbrofol. 7

Robert Earnshaw – Digon bywiog yn ei hanner canfed gêm i Gymru, ac roedd ei groesiad yn berffaith i’r gôl gyntaf. Anlwcus i gael ei eilyddio ar yr hanner, ond yn angenrheidiol i newid siâp y tîm.  

Eilyddion:

Boaz Myhill (am Hennessey 46’)– Ychydig iawn o waith i’w wneud wrth i Gymru reoli’r ail hanner. 6

David Vaughan (am Earnshaw 46’) – Y Sbarc a drawsnewidiodd y gêm yn yr ail hanner. Dim byd ffansi, dim ond chwarae taclus, awydd i gael y bêl a phasio cywrain. Gwthio Bellamy’n agos fel seren y gêm. 9

Andy King (am Stock 46’) – 45 munud da ac enw i’r dyfodol. Rhediad a pheniad da ar gyfer ei gôl. 7

Neal Eardley (am Williams 85’) – Dim digon o funudau ar y cae i allu barnu ei berfformiad.

Tawelwch S4C